Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Gwastadeddau Gwent


01 Ardal Arfordirol yr As Fach/Allteuryn


01 ardal gymeriad ardal arfordirol yr As Fach/Allteuryn: "tirwedd afreolaidd" gymhleth yn yr ardal arfordirol uwch, yn cynnwys caeau afreolaidd bach, lonydd dolennog ac aneddiadau gwasgaredig. (Ffoto: GGAT Gwent Levels 033)

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

GGAT Gwent Levels 042
Cefndir Hanesyddol

Yn ddiau roedd rhannau arfordirol uwch y dirwedd hon wedi'u hadfer erbyn diwedd yr unfed ganrif ar ddeg/dechrau'r ddeuddegfed ganrif pan roddwyd Allteuryn a'r As Fach i Briordy Allteuryn. Roedd ardaloedd mewndirol ar dir is wedi'u hamgáu ac wedi'u draenio erbyn y drydedd ganrif ar ddeg/y bedwaredd ganrif ar ddeg.

Oherwydd y newidiadau a fu ar ôl hynny yn y defnydd a wneid o'r tir, y cynnydd yn y boblogaeth a roddodd fod i'r nifer fawr o ffermydd a bythynnod gwasgaredig, a'r broses o gau tiroedd comin a gwastraff ymyl ffordd, mae'r dirwedd hon yn un sydd wedi'i haddasu'n gyson, ond mae'n dirwedd sydd yn ei hanfod yn perthyn i'r cyfnod uwch ganoloesol.

Gwyddys bod digonedd o archeoleg rynglanw gynhanesyddol oddi ar arfordir yr As Fach ac Allteuryn, ac mae'n debyg bod hyn yn ymestyn i mewn i'r tir o dan y llifwaddod diweddarach. Cafwyd tystiolaeth o anheddu gan y Rhufeiniaid pan gloddiwyd pyllau llaid yr As Fach, tra'n adeiladu Gorsaf Drydan Aber-wysg ac o amgylch Trwyn Allteuryn. Mae arysgrif Rufeinig, sef "Carreg Allteuryn", yn cofnodi gwaith llengwyr ar wrthglawdd llinellol, morglawdd yn ôl pob tebyg.

Mae amrywiaeth eang o ddeunydd dogfennol ar gyfer yr ardal hon, gan gynnwys cyfres o siarteri ar gyfer Priordy Allteuryn, a disgrifiadau yn dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg o'r modd y gweithiai'r system ddraenio. Yn lleol, mae cysylltiadau diwylliannol cryf â'r Priordy; mae ffermwyr at ei gilydd yn priodoli'r gwaith a wnaed i adfer yr ardal hon i'r mynachod.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Tirwedd amrywiol: nifer fawr o olion archeolegol rynglanw ac olion archeolegol wedi'u claddu, nodweddion draenio (ffosydd draenio, cloddiau, gafaelion, ffosydd agored, pontydd) caeau bach afreolaidd eu siâp, lonydd dolennog â gwastraff ymyl ffordd, aneddiadau gwasgaredig, a thiroedd comin mawr, cysylltiadau mynachaidd

Ardal o dir arfordirol cymharol uchel. Yn ffin i'r ardal hon i'r de mae afon Hafren; datblygiad diwydiannol Aber-wysg i'r gorllewin; ardaloedd trefol/diwydiannol Casnewydd, Gwaith Dur Llanwern a thirwedd ganolradd (ardal 2) i'r gogledd; Whitson (ardal 3) a Porton (ardal 4) i'r dwyrain.

Roedd y dirwedd hon yn fath cyffredin o dirwedd gymhleth ac amrywiol, yn nodweddiadol o rannau arfordirol uwch y gwastadeddau, ac mae'n dal i fod. Fe'i nodweddir gan gaeau bach afreolaidd eu siâp, lonydd dolennog â gwastraff ymyl ffordd, aneddiadau gwasgaredig a thiroedd comin mawr. Mae'r amrywiaeth eang hon o elfennau tirwedd tra amlwg yn rhoi i'r ardal hon werth grwp uchel.

Mae cysylltiadau cryf â'r Priordy ar Drwyn Allteuryn a'r agwedd amlycaf ar y rhain yw ffos Monksditch. Er ei bod yn dal i gael ei defnyddio, mae Monksditch o bwys hanesyddol mawr. Mae'r ardaloedd o dirwedd i'r gogledd o Drwyn Allteuryn, ac o amgylch Chapel Lane, Tir Comin Clifton a Saltmarsh mewn cyflwr arbennig o dda. Mae nifer o ardaloedd wedi'u niweidio o ganlyniad i welliannau amaethyddol, ond mewn ardaloedd eraill, mae'r dirwedd mewn cyflwr ardderchog.

Nodwedd fwyaf cadarnhaol y dirwedd hon yn weledol yw ei natur amrywiol. Mae'r ardaloedd gogleddol a gorllewinol o dan gysgod Aber-wysg, Casnewydd a Llanwern, ond tua'r arfordir, ceir ardal dawel, diarffordd. Mae amrywiaeth mawr o nodweddion a chloddiau sydd wedi'u cadw mewn cyflwr da sy'n dangos yr hierarchaeth ddraenio gymhleth.

Mae dulliau rheoli gwrychoedd yn amrywio gryn dipyn. Ceir cymysgedd o wrychoedd prysglog a gwrychoedd wedi'u torri a rhai coed aeddfed ar eu pennau eu hunain; mae ardaloedd i'r de o'r ffordd o'r As Fach i Allteuryn yn tueddu i gynnwys gwrychoedd mwy prysglog.

Yn gyffredinol tirwedd a ddefnyddir yn eithaf helaeth ydyw sy'n cynnwys darnau mawr o dir âr, yn arbennig yn rhan dde-ddwyreiniol yr As Fach.

At ei gilydd cadwyd cyfanrwydd y dirwedd hon (er bod metlin ar lawer o'r ffyrdd a cheir llawer o fythynnod modern), ac mae'n weddol gydlynus (am ei bod yn dirwedd amaethyddol weithredol gan mwyaf).

Tirwedd amrywiol iawn ydyw, sy'n adlewyrchu'r hanes hir sy'n gysylltiedig â'i ffurfio, ac mae'n cynnwys patrwm afreolaidd o ffiniau caeau a lonydd dolennog. Mae llawer o'r gwastraff ymyl ffordd a arferai fod yn helaeth wedi'i amgáu, er bod olion wedi goroesi (ee Saltmarsh Lane). I'r gogledd o Drwyn Allteuryn, mae Mireland Pill yn ffurfio un ochr i enghraifft ardderchog o lôn werdd, roedd nifer o gomins stryd llinellol; amgaewyd y mwyafrif ohonynt (ee Broadstreet), er bod yr enghraifft yn Clifton wedi goroesi.

Nodweddid y patrwm anheddu yn bennaf gan ffermydd a bythynnod wedi'u gwasgaru drwy'r dirwedd drwyddi draw. Mae nifer o gyfadeiliadau gwrthgloddiau yn cynrychioli safleoedd aneddiadau a adawyd, gan gynnwys y safle ffosedig cofrestredig gerllaw Chapel Lane yn Allteuryn. Erbyn hyn mae pentrefi'r As Fach ac Allteuryn yn cynnwys adeiladau modern yn bennaf, er y ceir nifer o hen ffermdai ardderchog mewn mannau eraill.

Mae nifer o ffosydd draenio o eiddo'r Awdurdod Afonydd Cenedlaethol a'r Bwrdd Draenio Mewnol yn llifo drwy'r ardal hon, er prin yw'r rhai sydd o bwys mawr yn hanesyddol; mae'r mwyafrif yn dilyn cyrsiau dolennog naturiol. Yr eithriad yw Monksditch, ffos a godwyd, sy'n cario dwr o nant ucheldirol i'r arfordir, gan atal y dwr croyw hwn rhag gorlifo'r Gwastadeddau. Cyfeirir ato yn gyntaf mewn dogfen yn dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg ac mae'n debyg iddo gael ei adeiladu gan y mynachod yn Allteuryn.

Mae amrywiaeth eang o nodweddion tirwedd eraill, megis casgliad ardderchog o bontydd dros Mireland Pill. Mae i'r morglawdd wyneb o gerrig llanw ar ôl iddo gael ei ailadeiladu yn eithaf diweddar. Mae gafaelion wedi goroesi yma a thraw, ond i'r gogledd o Red House Farm, ar y naill ochr a'r llall i Chapel Road ceir enghreifftiau ardderchog. Tir Comin Clifton a Saltmarsh Lane (i gyd yn Allteuryn) ac o amgylch Tatton (Yr As Fach: wedi'i ddyrannu at ddibenion datblygu). Mae helyg wedi'u tocio yn eithaf cyffredin tua'r arfordir, yn arbennig i'r de o'r ffordd o'r As Fach i Allteuryn. Saif y safle'putcher' olaf sy'n gweithio, sef rhes o faglau pysgod, oddi ar Drwyn Allteuryn.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk